Cymdeithasol

Yn swatio'n agos i ardal drawiadol a gwarchodedig Parc Cenedlaethol Eryri, mae topograffeg naturiol yr ardal yn darparu lleoliad delfrydol ar gyfer cynhyrchu drwy bwmpio a storio. Er gwaethaf maint anferthol y prosiect adeiladu, mae'n rhyfeddol mai ychydig iawn o dystiolaeth weledol sy'n bodoli i ddangos bod camp beirianyddol unigryw wedi cael ei chyflawni yn yr ardal.

Mae Cwmni First Hydro yn rhoi blaenoriaeth uchel i'w rôl fel noddwr amrywiaeth eang o fentrau sydd o fudd i gymunedau lleol, addysg, chwaraeon, y celfyddydau a'r amgylchedd.

Cyfrannodd Cwmni First Hydro tuag at hanner cant o wahanol brosiectau yn 2011 a dros dri deg pump yn 2012, gan helpu i greu llwyddiant mewn amrywiaeth o weithgareddau a phrosiectau yn ardaloedd ein gorsafoedd pŵer.

ANSAWDD, AMGYLCHEDDOL, IECHYD A DIOGELWCH

Mae Cwmni First Hydro yn ymrwymo i gynnal y lefelau uchaf o ran ansawdd, ymwybyddiaeth amgylcheddol a iechyd a diogelwch, cyfrifoldeb a gonestrwydd. Mae Cwmni First Hydro yn cydnabod goblygiadau ei waith ac mae'n ymwybodol o'i effaith ar yr amgylchedd, ei bobl ac eraill. Rydym yn ymrwymo i gynnal gwelliannau yn ein perfformiad amgylcheddol a chawsom ein hardystio i ISO 14001 ac OHSAS 18001 yn ein Gorsafoedd Pŵer a'r Ganolfan Ymwelwyr.

  1. Polisi Amgylcheddol Cwmni First Hydro
  2. Polisi Iechyd, Diogelwch a Lles Cwmni First Hydro
  3. Polisi Ansawdd First Hydro

Cafodd y dogfennau hyn eu paratoi mewn Meddalwedd Adobe Acrobat. Os na allwch weld y ffeiliau hyn, gallwch lwytho eich copi o'r meddalwedd am ddim o wefan Adobe. Adobe

Mae Gorsafoedd Pŵer Dinorwig a Ffestiniog ar ffin Parc Cenedlaethol Eryri – sef ardal sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei harddwch. Yn naturiol, byddai'n rhaid i unrhyw gynllun adeiladu mawr gydweddu â'r dirwedd a chynefinoedd bywyd gwyllt gwerthfawr.

Mae'r ddwy orsaf bŵer ar safleoedd o fewn tirweddau o ddiddordeb hanesyddol yng Nghymru. Gelwir y mannau hynny yn safleoedd Dinorwig a Blaenau Ffestiniog gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

DINORWIG

Llanberis valley imageCafodd Gorsaf Bwer Dinorwig ei hadeiladu ar safle chwareli llechi Dinorwig a gaeodd yn y 1960au. Cafodd y tomennydd llechi eu symud er mwyn gwella gwerth esthetig yr ardal ac adeiladwyd y gwaith o fewn Mynydd Elidir Fawr. Bellach mae Mynydd Elidir Fawr yn rhan o Ardal o Gadwraeth Arbennig (AGA) Eryri. Mae rhan o'r safle o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac, yn debyg i Ffestiniog, yn laswelltir tir uchel lle mae defaid yn pori, a hen chwareli llechi. Mae'r safle yn cynnwys y cronfeydd dwr yn y top a'r gwaelod a'r argaeau sy'n perthyn iddynt, sef Llyn Marchlyn a Llyn Peris yn y drefn honno. Ymhlith y strwythurau uwchben y ddaear, y mae'r adeiladau gweinyddol a phorthdy diogelwch. Mae Cwmni First Hydro hefyd yn rheoli ac yn berchen ar ddarn bach o dir ar gyrion Nant Peris fel parc bioamrywiaeth, ble cafodd cynlluniau i greu cynefinoedd eu hannog. Ar hyd glannau Llyn Peris mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o ran daeareg, sy'n dangos canlyniadau rhewlifiant. Y mae Llyn Padarn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hefyd, ac i'r llyn hwn y bydd Dinorwig yn rhyddhau dwr dros ben.

Ar ôl cwblhau'r gwaith adeiladu, fe aethpwyd ati'n ofalus i ailblannu planhigion brodorol - gan gynnwys glaswelltau, llwyni a blodau gwyllt. Defnyddiwyd cerrig a llechi lleol (lawer ohonynt wedi'u hadfer o hen adeiladau chwarel) i adeiladu arwynebau, waliau ac adeiladau allanol.

Un o'r prif broblemau amgylcheddol a wynebai gwyddonwyr oedd sut i sicrhau diogelwch y Torgoch, sef pysgodyn sy'n gynhenid i Lyn Peris. Mae'r pysgodyn prin rhyfeddol hwn i'w gael mewn pedwar llyn yn unig ledled Cymru. Cafwyd rhaglen i sicrhau ei fod yn cael ei symud i Ffynnon Llungwy; sef rhewlyn cyfagos.

Bydd Cwmni First Hydro yn sicrhau bod materion amgylcheddol, fel ansawdd dŵr a gwarchod bywyd gwyllt o amgylch Dinorwig, yn cael eu monitro'n barhaus.

Byddwn yn cadw golwg ar arferion a lles rhywogaethau dyfrol yn Llyn Peris a Marchlyn Mawr. Bydd poblogaethau brodorol o eog, brithyll a lamprai dŵr croyw yn cael mynediad at eu dewis fannau i silio gydol y flwyddyn.

FFESTINIOG

Llyn Stwlan imageRoedd effaith amgylcheddol adeiladu cynllun trydan dwr mewn ardal mor hardd yn ganolog ar bob cam wrth wneud penderfyniadau. Mae'r safle yn Ffestiniog o fewn glaswelltiroedd ucheldir y Moelwyn. Mae gweddillion y diwydiant mwyngloddio metel a llechi yn amlwg ar y dirwedd. Bydd ffermwyr lleol yn gosod hawliau pori ar gyfer defaid. Mae'r safle yn cynnwys y cronfeydd dwr uchaf ac isaf a'r argaeau sy'n perthyn iddynt, sef Llyn Stwlan a Llyn Tanygrisiau yn y drefn honno, a safle'r orsaf bwer. Y mae un Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o ran daeareg rhwng y ddwy gronfa ddwr.

Un o'r problemau mwyaf sylfaenol y bu'n rhaid i'r penseiri a'r peirianwyr ei datrys oedd sut i gael gwared ar tuag un miliwn o dunelli metrig o greigiau a gloddiwyd wrth wneud y gwaith adeiladu.

Dewisiwyd safleoedd ble gallai'r creigiau gael eu gwasgaru yng nghyfuchlinau'r dirwedd leol. Aethpwyd ati wedyn i blannu glaswelltau, coed a llwyni brodorol i wella'r ardal. Defnyddiwyd cerrig, llechi a deunyddiau naturiol lleol eraill i godi'r adeiladau a'r waliau o fewn yr orsaf.

Byddwn yn gwneud llawer i warchod y bywyd naturiol cyfoethog ac amrywiol o amgylch yr orsaf bŵer. Ar y llethrau sy'n arwain at Argae Stwlan mae grug lledlwyd porffor yn drwch ar y mynydd, yn hafan i amrywiaeth eang o bryfed, gwenyn a glöynnod byw yn ystod misoedd yr haf.

Mae'r ardal yn gynefin naturiol i lawer o rywogaethau adar llai cyffredin gwledydd Prydain – yn eu plith clochdar y cerrig, corhedydd, y dringwr bach, yr hebog tramor a thinwen y garn.

ASESU RISGIAU AR DIR MYNEDIAD AGORED CWMNI FIRST HYDRO

Mae Cwmni First Hydro yn derbyn bod angen darparu dyletswydd gofal ble mae risgiau y byddai'n rhesymol disgwyl i ni gynnig diogelwch rhagddynt. Nid yw'r ddyletswydd hon yn ymestyn i bobl sy'n barod i dderbyn risgiau, fel heicwyr a cherddwyr. Fodd bynnag, y mae angen i ni ystyried y sefyllfa yn ofalus dros ben er mwyn cadw at y ddeddf a phenderfynu ar yr hyn y byddai'n rhesymol ei ddisgwyl gennym i ddiogelu'r cyhoedd pan fyddant ar ein tir.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy roi ystyriaeth i fynediad y cyhoedd yn yr asesiad risg ar gyfer busnes Cwmni First Hydro. Bydd y risgiau sy'n gysylltiedig â gwaith penodol ar ein tir yn cael eu hasesu yn unigol.

Dan y ddeddf newydd 'Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000', nid oes dyletswydd gofal ar Gwmni First Hydro o ran y risgiau sy'n codi o nodweddion naturiol, afonydd, nentydd, pyllau, clogwyni, ffosydd, neu gamddefnyddio waliau, ffensys neu giatiau ar eu tir, oni bai iddynt greu'r risg yn fwriadol neu ganiatáu i hynny ddigwydd yn ddi-hid.

Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Mai
7 diwrnod yr wythnos 10.00am - 4:30pm

Prif Wyliau Plant, Gwyliau'r Banc a Mehefin, Gorffennaf, Awst
7 diwrnod yr wythnos 09.30am - 5:30pm

Medi, Hydref, Tachwedd, Rhagfyr
7 diwrnod yr wythnos 10:00am - 4:30pm (wedi cau Rhagfyr 24, 25, 26 a 31)